Annwyl Aelodau,

Copi at staff y grwpiau a staff cymorth

 

CRYNODEB O GYFARFOD Y BWRDD TALIADAU A GYNHALIWYD AR 12 HYDREF 2023

Cyfarfu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ddydd Iau 12 Hydref, yn dilyn sesiynau galw heibio gydag Aelodau a chyfarfodydd gyda grwpiau cynrychioladol yr Aelodau a’r staff cymorth ar 11 Hydref.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r staff a gyfarfu â'r Bwrdd, yn enwedig yr Aelodau a'r staff yr ydym wedi cwrdd â nhw wrth ymweld â’r swyddfeydd etholaethol dros yr wythnosau diwethaf. Mae’r trafodaethau a’r adborth a gafwyd wedi bod yn werthfawr wrth gyfleu safbwyntiau’r Aelodau a’u staff ar sawl mater a gaiff eu hystyried gan y Bwrdd.  

Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o brif drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Mae gwybodaeth am gyfarfodydd blaenorol y Bwrdd ar gael yma.

 

Diweddariad economaidd, costau byw a chyflogau

Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i ystyried y pwysau costau byw ehangach y mae staff yn eu hwynebu a'r goblygiadau i gyflogau staff cymorth yr Aelodau ar gyfer 2024-25. Bydd y Bwrdd yn trafod ymhellach yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd cyn ymgynghori ar y cynigion. Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth ddiweddaraf yn ei gyfarfod ym mis Hydref i ddatblygu opsiynau i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf. 

Cafodd trafodaethau’r Bwrdd eu llywio gan Ddiweddariad Economaidd a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil ac adborth gwerthfawr a gafwyd cyn y cyfarfod gan grwpiau cynrychioliadol yr Aelodau a’u staff, lle nodwyd goblygiadau'r adolygiad disgwyliedig i'r cyflog byw gwirioneddol.

Roedd y Bwrdd yn ffafrio mynd i'r afael ag unrhyw bwysau hirdymor yn sgil costau byw drwy'r penderfyniad ar gyflogau staff cymorth ar gyfer 2024-25, ond roedd yn ymwybodol o'r pwysau ariannol uniongyrchol a pharhaus y mae staff yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn enwedig y rhai ar gyflogau is. Nododd y Bwrdd hefyd y byddai angen i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol ehangach sy'n wynebu'r Comisiwn. 

 

Yr Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad

Trafododd y Bwrdd y dull ar gyfer yr Adolygiad Blynyddol, a fydd yn cael ei drafod yn fanylach yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd.

Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen ar gyfer ymgynghori ar yr Adolygiad Blynyddol; bydd y Bwrdd yn cadarnhau’r cynigion terfynol yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd, bydd ymgynghoriad rhwng 15 Rhagfyr a 26 Ionawr ac yna trafodaeth ar yr ymatebion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 22 Chwefror, a chytunir ar unrhyw newidiadau i'r Penderfyniad ar 14 Mawrth 2024.

Bydd ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn trefnu cyfarfod â phenaethiaid staff yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd, i roi arweiniad clir o ran y newidiadau i'r Penderfyniad a gaiff eu cynnig fel rhan o'r ymgynghoriad, er mwyn rhoi cymaint o amser â phosibl i'r Aelodau drafod newidiadau arfaethedig a pharatoi ymatebion i'r ymgynghoriad. Wrth i'r Bwrdd wneud ei benderfyniadau ym mis Chwefror a mis Mawrth, bydd ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn parhau i rannu gwybodaeth â’r penaethiaid staff fel bod gan yr Aelodau arwydd cynnar o’r newidiadau i'r Penderfyniad y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd, cyn i'r Penderfyniad newydd ddod i rym ar 1 Ebrill 2024.

 

Tâl Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio a Chyd-gadeiryddion y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru

Cytunodd y Bwrdd y byddai cadeiryddion y pwyllgorau a oedd newydd gael eu sefydlu, sef Cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Covid a Chadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio, yn cael eu talu ar y gyfradd uwch ar gyfer cadeiryddion. Cafodd y Bwrdd wybodaeth am raglen waith y Pwyllgorau a chyfrifoldebau’r Cyd-gadeiryddion a nododd fod y rhain yn rolau cyd-gadeirio yn hytrach na rolau 'rhannu swydd'. Nododd y Bwrdd hefyd y bydd gwaith y Pwyllgor Covid yn gymhleth, yn ddigynsail ac o ddiddordeb sylweddol i'r cyhoedd.

 

Bydd y penderfyniad hwn yn gymwys o’r dyddiad yr etholwyd y cadeiryddion. Nododd y Bwrdd fod dau o'r Cadeiryddion eisoes yn cael cyflog deiliad swydd ychwanegol ac felly, yn unol â'r Penderfyniad, na fyddai ganddynt hawl i gyflog cadeirydd hefyd.

 

Materion yn ymwneud â’r Cynllun Pensiwn

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau a bu’n trafod y newidiadau arfaethedig i gyfradd cyfraniad y Comisiwn o ystyried perfformiad y Cynllun. Bydd yr Actiwari yn hysbysu’r Comisiwn ac Ymddiriedolwyr y Cynllun ac yn ymgynghori â nhw ynghylch y cynnig.

Rhoddodd yr Actiwari hefyd farn gychwynnol ar effaith diwygio'r Senedd ar y cynllun pensiwn, ar ôl i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar y Bil. Anfonwyd ymateb at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar ffurf llythyr.

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad hefyd ar y goblygiadau treth parhaus i bensiynau'r Aelodau yn dilyn dyfarniad McCloud a bod swyddogion y Comisiwn a’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA) yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau adfer (mae IPSA yn ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer Aelodau Seneddol). Bydd y Bwrdd yn cael diweddariad mewn cyfarfodydd yn y dyfodol a bydd y Bwrdd Pensiynau yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

 

Adolygiadau thematig a diweddariadau eraill

Cafodd y Bwrdd ddiweddariadau ar gynnydd adolygiadau thematig. Mae'r adolygiad o'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn mynd rhagddo, ac mae cyfarfodydd wedi dechrau gydag uwch-aelodau'r grŵp a phenaethiaid staff. Bydd y gwaith o ymgysylltu ag Aelodau a staff ynghylch yr adolygiad o gyflogau a graddfeydd staff yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys cyfweliadau â chroestoriad o Aelodau, staff y grwpiau a staff cymorth, ac yna grwpiau ffocws ac arolwg i sicrhau bod yr holl Aelodau a staff yn cael cyfle i gyfrannu. Mae'r Bwrdd wedi ysgrifennu (24 Hydref) at yr holl Aelodau a’r staff ynglŷn â’r adolygiad hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am adolygiadau thematig a rhaglen waith strategol y Bwrdd ar gyfer gweddill y tymor hwn ar gael yma.

Byddwch yn cael y diweddariadau hyn yn dilyn pob un o gyfarfodydd y Bwrdd. Yn y cyfamser, os hoffech godi unrhyw fater gyda mi neu’r Bwrdd, mae croeso i chi gysylltu drwy anfon e-bost at taliadau@senedd.cymru.



Yn gywir,

A picture containing font, black, graphics, typography  Description automatically generated

Dr Elizabeth Haywood

Cadeirydd, Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.